Cyrsiau


ADDYSG GYMUNEDOL

Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer addysg, cyflogaeth, gwaith a bywyd ac maent wedi eu hanelu at y rheiny sydd mewn ystod eang o amgylcheddau y tu allan i addysg brif ffrwd.

Sgiliau Digidol

Mae'r cymwysterau'n amrywio o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 3.

Cyrsiau pwrpasol wedi eu cynllunio'n benodol ar gyfer cleientiaid achrededig a’r rhai nad ydynt wedi eu hachredu.

Sgiliau Cyflogadwyedd

Mae'r cymwysterau Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Mynediad 1 hyd at Lefel 3 yn cynnwys pedwar prif faes pwnc:

  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesi
  • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
  • Effeithiolrwydd Personol

Rydym ni hefyd yn darparu cyrsiau Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol Sylfaenol pwrpasol hynod effeithiol ar gyfer y rhai sy'n chwilio am waith.

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae'r cymwysterau'n cefnogi dysgwyr i gynyddu eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu datblygiad personol a chymdeithasol, yn ogystal â’u hiechyd a’u lles emosiynol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl yn dod yn unigolion hyderus a pharod fel eu bod yn gallu byw mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym, gan gyflawni eu huchelgais.

Mae'r cymwysterau'n cwrdd â'r pum thema wahanol yn y fframwaith:

  • dinasyddiaeth weithredol
  • iechyd a lles emosiynol
  • datblygiad moesol ac ysbrydol
  • paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
  • datblygiad cynaliadwy
  • dinasyddiaeth fyd-eang.

ESOL (Saesneg fel Ail Iaith)

I'r rhai sy'n dysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith ychwanegol.

Mae ein hunedau yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol ar bob lefel, gan gynnig darpariaeth i ddysgwyr o gefndiroedd addysgol amrywiol a allai fod angen datblygu eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg.

Rydym ni hefyd yn cyflwyno cwrs ESOL pwrpasol ac effeithiol heb ei achredu ar gyfer unigolion a grwpiau cymunedol. Mae’r cwrs hwn wedi esgor ar ganlyniadau cymunedol cydlynol cadarnhaol.

BUSNES / DPP

Ymhlith y meysydd pwnc busnes a chorfforaethol pwrpasol mae:

  • Meddylfryd Twf / Effaith ac Effeithiolrwydd Personol
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Cymhelliant a Hyder
  • Datrys Problemau ac Adeiladu Tîm

GALWEDIGAETHOL

Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau/ meysydd pwnc galwedigaethol y gellir eu cyflwyno o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2 (neu fel unedau pwrpasol) gan gynnwys:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Sgiliau Manwerthu
  • Gwasanaeth Cwsmer
  • Garddwriaethol